TegwenTHOMASTy'n Lôn, Capel Coch. Dymuna Eirwyn, a Hefina ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth a dderbyniwyd o golli mam annwyl a mam yng nghyfraith garedig.
Diolch i'r Parchedig Hugh Pritchard a'r Parchedig Ddoctor Alun Morton Thomas am gynnal gwasanaeth teimladwy a chynnes iawn yng Nghapel Ty Mawr, diolch i Mrs Jane Bown yr organyddes ac i Mrs Miriam Pritchard am y teyrnged teimladwy. Diolch arbenning am y rhoddion hael o £1,000 a dderbyniwyd i'w rhannu rhwng Capel Ty Mawr a Meddygfa Glan Menai. Diolch hefyd i Gareth Owen yr ymgymerwr o gwmni Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali am y trefniadau trylwyr. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates